Cafodd Llywodraeth Cymru ei beirniadu yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, 2 Gorffennaf) am fethu sicrhau “yn llythrennol dim byd o gwbl” o ran buddsoddiad ar gyfer rheilffyrdd i’r gorllewin o Gaerdydd fel rhan o Adolygiad Gwario diweddar Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Daeth y feirniadaeth gan Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn ystod sesiwn graffu ar waith Ken Skates, Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Cyfeiriodd Mr Campbell at nifer o enghreifftiau lle’r oedd mawr angen buddsoddiad, gan gynnwys datrys oediadau ar linell Calon Cymru, sicrhau gwasanaethau mwy rheolaidd ar Llinell y Cambrian ac adeiladu gorsaf reilffordd newydd yn Sanclêr.
Ym mis Mehefin, dywedodd Rachel Reeves, Canghellor y DU, ei bod wedi darparu popeth yr oedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdano fel rhan o becyn £445 miliwn yn ei Hadolygiad Gwario.
Yn cyfeirio at hyn, holodd Mr Campbell yn y Senedd:
“Pam wnaethoch chi ofyn am ddim – yn llythrennol dim byd o gwbl – i fuddsoddi mewn unrhyw reilffordd i'r gorllewin o Gaerdydd?
“Oherwydd y gwirionedd yw, nid yn unig bod yr Adolygiad Gwariant wedi sicrhau ychydig iawn ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru, ond enillwyd yn llythrennol dim byd ar gyfer rheilffyrdd yn y rhanbarth rwyf i’n ei chynrychioli.”
“Ydych chi o’r farn, Ysgrifennydd Cabinet, bod pobl Canolbarth a Gorllewin Cymru yn haeddu llai?”