Cafodd Prif Weinidog Cymru ei phwyso unwaith eto i ddatgan ei barn ar doriadau i daliadau annibyniaeth personol (PIPs), wrth iddi glywed hanes menyw o Lanelli oedd yn pryderu dros golli ei thŷ o ganlyniad i'r polisi ac un arall a oedd yn poeni am dorri yn ôl ar fwyd.
Pan gafodd ei holi gan Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, 1 Ebrill), gwrthododd Eluned Morgan ddatgan barn unwaith eto.
Ddydd Gwener ddiwethaf (28 Mawrth), yn ystod sesiwn Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, nid oedd hi’n fodlon datgan barn ar y mater chwaith. Daeth hyn yn groes i'r hyn ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Jo Stevens yn ddiweddar, sef bod Eluned Morgan wedi croesawu’r polisi.
Yn siarad yn y Siambr heddiw, dywedodd Cefin Campbell AS:
“Bues i mewn digwyddiad People Speak Up ar gyfer pobl dros 50 oed yn Llanelli rai wythnosau yn ôl, ac yno ges i sgwrs gyda rhai trigolion lleol, gan gynnwys un fenyw oedd yn poeni am golli ei thaliadau PIP. Brif Weinidog, roedd hi’n pryderu y byddai’n colli ei thŷ o ganlyniad i’r newid polisi."
“Roedd un arall yn sôn am dorri nôl ar fwyd os byddai hi’n colli ei thaliadau PIP - dyma ddifrifoldeb y sefyllfa sy’n wynebu pobl yn ein cymunedau."
“Cawsoch eich ethol, fel fi, gan bobl Canolbarth a Gorllewin Cymru i’w cynrychioli a siarad ar eu rhan."
“A gaf i ofyn felly ai dyma’r math o bolisi roeddech chi’n ei ddisgwyl gan lywodraeth Lafur yn San Steffan – polisi sy’n mynd i daro’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas a gwthio miloedd yn fwy o bobl i dlodi? Ai dyma beth ydych chi’n ei olygu wrth ‘bartneriaeth mewn grym’?”