Cafodd pryderon ffermwyr ac undebau amaethyddol ynglŷn â’r newid i’r dreth etifeddiaeth ar gyfer asedau amaethyddol eu mynegi ar lawr y Senedd heddiw (dydd Mercher, 5 Mawrth), fel rhan o ddadl arweiniwyd gan Llŷr Gruffydd AS ar ran Plaid Cymru.

Bydd y newid i’r dreth etifeddiaeth – sydd wedi derbyn y rhagenw ‘Treth y Fferm Deuluol’ – yn golygu y bydd 20% o werth fferm dros filiwn o bunnoedd yn ddyledus mewn treth.

Yn ôl Plaid Cymru, mae hi’n aneglur beth fydd effaith hyn ar ffermydd a chymunedau gwledig, gan nad oes asesiad effaith economaidd cyflawn wedi’i gyflawni arno. Tra bod Llywodraeth Prydain yn honni mai dim ond 27% o ffermydd fydd yn cael eu heffeithio gan y dreth, mae NFU Cymru yn dadlau bod y gwir ffigwr yn llawer uwch, yn 75%.

Fel rhan o’r ddadl, dywedodd Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru:

“Mae amaeth yn un o gonglfeini’r economi ac yn wir o gymdeithas yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’n ffermydd teuluol yn cynnal ffordd o fyw a fu mewn bodolaeth ers canrifoedd, yn cynnal bywyd cymunedol yn ei holl amrywiaeth ac wrth gwrs yn cyfrannu’n helaeth i’r economi leol.

“Y broblem sylfaenol yw nad oes gennym lawer o syniad beth fydd goblygiadau’r newid polisi yma, gan nad oes asesiad economaidd trylwyr o’i effaith wedi’i gyflawni. Yn anffodus, daw hyn fel rhan o batrwm y mae ffermwyr yn fy rhanbarth yn ei deimlo: bod diffyg dealltwriaeth yng nghoridorau grym dros y realiti y maen nhw’n ei wynebu.

“Dydy sefyllfa fel hyn ddim digon da, ac mae’n rhaid i effaith polisïau fel yr un yma, sydd â’r perygl o danseilio cynifer o’n ffermydd a’n cymunedau, gael eu hasesu’n llawn cyn cael eu cyflwyno.”

Ychwanegodd Llywydd NFU Cymru, Mr Aled Jones:

“Os bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i dreth etifeddiant yn mynd yn eu blaen, yna fe fyddan nhw’n cael effaith hynod o andwyol ar ffermydd teuluol Cymru a’r holl fusnesau sydd yn eu tro yn dibynnu arnyn nhw.

“Drwy osod rhwymedigaethau treth anghynaladwy ar asgwrn cefn ein system fwyd, mae perygl i Lywodraeth y DU ddatgymalu sector hanfodol a gwagio ein cymunedau gwledig.

“Rwyf felly’n croesawu’n fawr y ffaith bod Plaid Cymru wedi sicrhau’r ddadl hon, mae’n hanfodol bod effeithiau’r cynigion hyn ar Gymru yn cael eu clywed a’u hystyried yn drylwyr yma yn y Senedd.”