Mae Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ac Ann Davies, Aelod Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan, sydd ill dau yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin, wedi annog pobl leol a chefnogwyr i arwyddo deiseb yn galw ar Undeb Rygbi Cymru i warchod dyfodol y Sgarlets mewn unrhyw benderfyniadau i ddod ar ddyfodol rygbi yng Nghymru.
Daw hyn yn ystod wythnos gyntaf cyfnod ymgynghori gan yr Undeb ar ail-strwythuro'r rhanbarthau rygbi proffesiynol, gydag opsiwn a ffafrir gan yr Undeb i gwtogi’r niferoedd o glybiau i ddau o’r pedwar presennol.
Mae’r ddeiseb, gyda’r teitl “Annog Undeb Rygbi Cymru i gefnogi goroesiad y Sgarlets yng Ngorllewin Cymru”, bellach wedi casglu dros 4,500 o lofnodion.
Yn annog pobl i’w arwyddo, dywedodd Mr. Campbell AS a Mrs. Davies AS mewn datganiad ar y cyd:
“Byddai diddymu'r Sgarlets yn newyddion trychinebus nid yn unig i dre'r sosban, Sir Gâr a’r ardal ehangach, ond hefyd ar lefel genedlaethol - tîm sydd â thraddodiad rygbi heb ei ail a brand sy’n cael ei adnabod gan gefnogwyr rygbi ar draws y byd. Clwb hefyd sydd wedi bwydo chwaraewyr o'r safon uchaf i dîm rygbi Cymru, o Phil Bennett, Delme Thomas a Ray Gravell, i Stephen Jones a Ken Owens, i enwi dim ond rhai.
“Ac i ffwrdd o'r cau chwarae, mae'r clwb yn cyfrannu cymaint i economi, hunaniaeth a diwylliant yr ardal. Byddai ei golli yn gadael bwlch enfawr ar ei ôl ac yn arwain i gymaint o gefnogwyr i golli ffydd yn nyfodol rygbi.
“Fel aelodau etholedig, byddwn yn sefyll gyda'r ardal pob cam o'r ffordd er mwyn annog Undeb Rygbi Cymru i wrando ar ein pryderon a gwrthod unrhyw gynllun i ddiddymu’r Sgarlets fel tîm rhanbarthol.
“Rydym yn bwriadu ymateb yn ffurfiol i'r ymgynghoriad gan obeithio y bydd eraill yn gwneud yn eu miloedd. Rhaid i ni ddangos i'r Undeb mai nid dileu 150 o flynyddoedd o draddodiad rygbi cyfoethog yng ngorllewin Cymru yw’r ateb i'w methiannau i reoli’r gêm broffesiynol ar lefel genedlaethol.”