Methodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, ymrwymo i weithredu ar unrhyw bolisïau tai newydd i sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg cyn etholiad nesa’r Senedd yn 2026 yn ystod sesiwn graffu yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, 18 Mehefin).

Fe’i holwyd ar y mater gan Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, a nododd sawl maes polisi sydd dal “ar ei hanner” ers cyfnod y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Ymysg rhain oedd argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, gyhoeddwyd fis Awst y llynedd.

Yn Sir Gâr, sef sir enedigol Mr. Campbell, mae canran y rheiny sy’n siarad yr iaith wedi cwympo o 50.3% yn 2001, i 43.9% yn 2011, i 39.9% yn 2021. 

Mewn ymateb, dywedodd Cefin Campbell AS: 

“Roedd hi’n siomedig i glywed heddiw nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd yr argyfwng fforddiadwyedd tai yn ein cymunedau Cymraeg o ddifri, ac yn bodloni gyda’r hyn o weithredu sydd wedi digwydd yn barod. 

“Mae diffyg mynediad teuluoedd a phobl ifanc i dai i’w prynu a’u rhentu yn parhau i’w gyrru o’u cymunedau, gan danseilio’r Gymraeg yn ei chymunedau traddodiadol. Mae hyn yn anffodus yn wir ar draws fy rhanbarth, o Sir Gâr, i Geredigion ac i Wynedd yn y gogledd. 

“Dydy mwy a mwy o oedi ddim yn opsiwn, ac mae’n rhaid gweld gweithredu’n fuan er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau Cymraeg a’r iaith fel un byw.”