Cafodd Eluned Morgan ei holi ar ei safbwynt ar fewnfudo yn y Senedd y prynhawn yma (dydd Mawrth, 20 Mai), yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Lafur y DU o reolau llymach ar fewnfudo’r wythnos diwethaf. 

Yn ystod ei sesiwn graffu wythnosol yn y Siambr, dywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i gwestiwn Cefin Campbell AS ei bod yn bwysig "dilyn ffordd goch Gymreig."  

Cyfeiriodd yr Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn ei gwestiwn at ymateb Keir Starmer i gwestiwn gan Liz Saville-Roberts AS yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, lle cafodd ei chyhuddo o siarad ‘sothach.’ Cafodd y Prif Weinidog ei gondemnio’n eang am ei ymateb i gwestiwn arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, gan gynnwys gan gyn-arweinydd dros dro’r Blaid Lafur, y Farwnes Harriet Harman. 

Tynnodd Mr Campbell AS sylw hefyd at gyfraniad economaidd a chymdeithasol mewnfudwyr i Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Cafodd tua 9% o staff Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu geni y tu allan i'r DU, yn ogystal â thua 7% o fyfyrwyr Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant. 

Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd: 

“Nid yw’r Papur Gwyn newydd ar fewnfudo a lansiwyd gan Keir Starmer yr wythnos diwethaf yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae mewnfudwyr a myfyrwyr tramor yn ei wneud i’n heconomi, ac mae’n cynrychioli gwyriad pellach i’r adain dde gan Brif Weinidog sy’n benderfynol o efelychu Nigel Farage. 

“I ddweud y gwir, rwy’n ei chael hi’n anodd adnabod y Blaid Lafur bellach gan ei bod wedi symud mor bell o’i gwreiddiau, fel y mae toriadau i daliadau tanwydd gaeaf a budd-daliadau anabledd, y cap budd-dal dau blentyn a’r methiant i amddiffyn gweithwyr dur Port Talbot oll yn ei ddangos. 

“A wnaiff y Prif Weinidog, felly, gondemnio’r trywydd y mae arweinydd ei phlaid wedi’i gymryd ar fewnfudo, neu a yw hi, fel y dywedodd Starmer am Liz Saville-Roberts yn San Steffan yr wythnos diwethaf, yn credu fy mod i hefyd yn siarad ‘sothach’”

Mewn ymateb, dywedodd Eluned Morgan AS: 

“Wel, dwi’n meddwl bod ein gweithwyr tramor yn ein sector gofal cymdeithasol yn cael eu gwerthfawrogi, ac maen nhw’n cyfrannu’n helaeth ac yn sylweddol at ein gweithlu. Maen nhw’n dod ag amrywiaeth, maen nhw’n dod â phrofiad, maen nhw’n dod â chydymdeimlad a sgiliau i’n sector ni. 

“Mae’n rhaid inni fod yn ofalus, ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n navigate-io ffordd ein hunain yma yng Nghymru drwy sicrhau ein bod ni’n dilyn y ffordd goch Gymreig.”