Mae mwyafrif o berchnogion busnesau bach Sir Gaerfyrddin yn cefnogi polisïau Plaid Cymru ar gyfer adfywio canol trefi, yn ôl arolwg diweddar gynhaliwyd gan swyddfa Cefin Campbell AS.
Yn ôl yr arolwg gan yr Aelod o’r Senedd, mae 58.5% o berchnogion busnes y sir yn rhagweld dyfodol negyddol i ganol ein trefi, gydag ond 25.2% yn rhagweld dyfodol positif.
Un polisi yn benodol yr oedd Mr. Campbell eisiau holi yn ei gylch oedd diwygio’r drefn ar gyfer cyfrifo ardrethi busnes fel bod busnesau bach y stryd fawr yn talu llai a chwmnïau mawr ar y cyrion yn talu mwy.
Yn ôl yr arolwg, roedd dros ddau draean (67.8%) o ymatebwyr yn credu bod lefelau ardrethi busnes yn rhy uchel ar hyn o bryd, gyda ffigwr tebyg – 71.6% – yn eu gweld fel rhwystr i dyfu eu busnesau. O ganlyniad, roedd 85.6% o ymatebwyr yn cefnogi polisi Plaid Cymru i ddiwygio’r drefn ardrethi busnes.
Mewn ymateb, dywedodd Cefin Campbell AS:
“Rwy’n clywed yn aml gan bobl busnes, nid yn unig yn Sir Gâr ond ar draws Cymru, am yr heriau maent yn eu hwynebu, a bod ardrethi busnes annheg yn rhan o’r broblem. Mae hyn wrth gwrs yn ychwanegu at y llu o heriau eraill y maent yn gorfod delio â nhw, o’r argyfwng costau byw i gystadleuaeth ar-lein.
“Os ydym am roi bywyd newydd i’n strydoedd mawr a chanol ein trefi, a rhoi cyfle teg i’n busnesau bach, Cymreig, rhaid lleddfu’r baich yma sydd arnynt.”
Bu cefnogaeth gref hefyd i bolisïau eraill y Blaid, gan gynnwys dad-wneud y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol gan Lywodraeth Llafur San Steffan (78.6%) a’i gwneud hi’n haws i drosi lleoedd uwchben siopau yn unedau preswyl (69.2%).