Cafodd ddiffygion llinell reilffordd Calon Cymru eu codi’n y Senedd ddoe (dydd Mercher, 30 Ebrill), yn dilyn cwynion y mae Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, wedi’u derbyn gan etholwyr sy’n byw mewn cymunedau gwledig.
Ers mis Rhagfyr 2024, mae’r gwasanaeth trên olaf o Abertawe i Landrindod wedi bod yn gadael am 17:48, gan adael llawer o etholwyr gwledig yn methu â dychwelyd adref gyda’r nos. Heb unrhyw lwybrau amgen gyda’r nos na chysylltiadau digonol, dywedodd Mr Campbell bod cymunedau gwledig yn cael eu gadael i lawr.
Yn siarad yn y Siambr, dywedodd Mr Campbell AS:
“Abertawe yw ail ddinas fwyaf Cymru— mae’n ganolbwynt ar gyfer cyflogaeth, addysg, gofal iechyd a diwylliant.
“Ac eto, i lawer o bobl mewn cymunedau gwledig, nid yw’r amserlen hon yn darparu ar gyfer oriau gwaith safonol, digwyddiadau gyda’r nos, nac ymrwymiadau fel apwyntiadau meddygol neu gyfrifoldebau teuluol.
“Pa gamau mae Trafnidiaeth Cymru yn eu cymryd i asesu a gwella’r amserlen hon, i greu system drafnidiaeth sydd wir yn cysylltu Cymru gyfan?”
Mewn ymateb i’r cwestiwn, dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, y byddai’n sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru’n ymwybodol o’r hyn godwyd gan Mr. Campbell ac y bydden nhw’n ystyried cynnal gwasanaeth hwyrach.