Bydd Cefin Campbell, Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn dechrau ar daith o ddeg canol tref yn Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener (27 Mehefin) er mwyn clywed am eu disgwyliadau ar gyfer y dyfodol a holi am eu barn ar bolisïau adfywio.
Gan ddechrau yng nghanol tref Caerfyrddin, un polisi yn benodol y mae’r Aelod Plaid Cymru o’r Senedd eisiau clywed barn cwmnïau yn ei gylch yw ymrwymiad Plaid Cymru i sefydlu trefn decach ar gyfer pennu cyfraddau busnes, lle mae cwmnïau bychain yng nghanol y dref yn talu llai a chwmnïau mwy ar y cyrion yn talu mwy.
Dywedodd Mr. Campbell:
“Nod y daith yma yw clywed barn cwmnïau annibynnol, lleol ar sefyllfaoedd canol eu trefi ac i'w holi am ystod o bolisïau y mae Plaid Cymru wedi eu llunio er mwyn mynd i'r afael â’r her o’u hadfywio.
“Rwy’n ymwybodol iawn o’r heriau sydd wedi wynebu’r cwmnïau hyn dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ystyried graddfa’r argyfwng costau byw ac o ganlyniad i’r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol gan Lywodraeth Lafur y DU. Mae dyletswydd arnom ni fel gwleidyddion i wrando arnynt ac i weithredu.
“Yn benodol, rwyf eisiau trafod rhywbeth rwyf eisoes wedi clywed sawl perchennog busnes yn ei godi, sef sustem trethi busnes annheg y mae mawr angen ei ddiwygio.”
- Dyddiadau’r ymweliadau
o Caerfyrddin – 27/06
o Cydweli – 04/07
o Llanelli – 07/07
o Llandeilo – 10/07
o Rhydaman – 11/07
o Cross Hands – 14/07
o Castell Newydd Emlyn – 24/07
o Llanymddyfri – 25/07
o Sanclêr – 29/07
o Hendy-gwyn ar Dâf – 29/07