neidio i'r prif gynnwys neidio i'r troedyn

Bywyd Cynnar a Gyrfa

Ganed a magwyd Cefin Campbell yn Nyffryn Aman. Bu llawer o deulu ei dad yn lowyr, gan gynnwys ei dad-cu ond ffermwyr oedd bron y cyfan o deulu ei fam. Wedi gadael y brifysgol bu Cefin yn dysgu Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe cyn cael ei benodi’n ddarlithydd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Gadawodd y sector addysg uwch yn 1991 i sefydlu’r Fenter Iaith gyntaf yng Nghymru, sef Menter Cwm Gwendraeth cyn symud ymlaen sefydlu Mentrau Iaith ym mhob cwr o Gymru. Yn 2008, sefydlodd fusnes ymgynghorol o’r enw Sbectrwm oedd yn arbenigo mewn ymchwil, cynllunio strategol, rheoli prosiectau a hyfforddiant gan weithio i rai o gyrff mwyaf blaenllaw Cymru. 

Mae Cefin hefyd wedi gwasanaethu fel aelod o Awdurdod S4C, fel cynghorydd iaith i Bòrd na Gàidhlig yn yr Alban, ar Fwrdd Llywodraethwyr Coleg Sir Gâr, yn arolygydd trwyddedig i Estyn ac yn gadeirydd ar nifer o fyrddau llywodraethol ysgolion. 

Bu Cefin yn Gynghorydd Sir ar Gyngor Sir Caerfyrddin rhwng 2012 a 2021 ac yn aelod o Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin gyda chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig a Chymunedau rhwng 2017 a 2021. Yn ystod y cyfnod hwn, fe gadeiriodd grŵp trawsbleidiol a ddatblygodd strategaeth gynhwysfawr i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y Cyngor, strategaeth i adfywio Sir Gâr wledig, cynllun arloesol i daclo tlodi, cynllun gweithredu i sicrhau bod Cyngor Sir Gâr yn cyrraedd net-sero carbon erbyn 2035 a llunio adroddiad i fynd i’r afael â hiliaeth a gwahaniaethu.

Yn y Senedd

Etholwyd Cefin Campbell fel Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ym Mai 2021. Yn fuan wedi cael ei ethol, penodwyd yn llefarydd grŵp Plaid Cymru ar Faterion Gwledig ac Amaethyddiaeth. 

Rhwng mis Ionawr 2022 a Mai 2024, roedd Cefin yn un o'r Aelodau Dynodedig yng Nghytundeb Cydweithio Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’i waith gyda’r Cytundeb, bu’n rhannol gyfrifol am sicrhau polisïau blaengar megis prydau ysgol am ddim i holl blant cynradd, mesurau i fynd i'r afael gydag ail dai, llunio Bil y Gymraeg ac Addysg er mwyn rhoi’r Gymraeg i bob plentyn a sicrhau bod hanes Cymru yn rhan hanfodol o’r cwricwlwm. 

Ers diwedd y Cytundeb Cydweithio ym Mai 2024, mae Cefin Campbell wedi bod yn gyfrifol am bortffolio addysg y Blaid, gan arwain ar ddatblygu polisi a bod yn llefarydd ar y maes. Mae gan Cefin amrywiaeth o gyfrifoldebau eraill yn y Senedd, gan gynnwys cadeirio’r Grŵp Trawsbleidiol ar Wlân Cymreig.

alt

Bywyd Personol

Mae Cefin yn briod, gyda thair merch ac yn byw yng Ngelli Aur yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin. Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau gwylio’r Scarlets, cefnogi clwb pêl-droed Abertawe, pysgota a charafanio.

Cwrdd â’r Tîm

  • alt
    Jonathan Evershed

    Mae Jonathan Evershed yn Rheolwr Swyddfa ac Uwch Ymchwilydd. Mae’n rheoli’r tîm, mapio allan ein strategaeth, a chefnogi gwaith Seneddol Cefin drwy ei ymchwil. Mae’n rhannu ei amser rhwng swyddfa Cefin a Grŵp Senedd canolog Plaid Cymru, lle mae’n Gynghorydd Arbennig ar Bolisi ac Ymchwil.

  • alt
    Amy Thomas

    Amy Thomas yw ein Swyddog Cymunedol a’n Gweithiwr Achos dros dro, sy’n arwain ar ymgysylltu â’r gymuned, ac yn cynorthwyo etholwyr gyda materion y maent yn eu hwynebu. Yn ddiweddar, cwblhaodd MA mewn Polisi Addysg, gyda ffocws arbennig ar hawliau merched. Mae Amy hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe.

  • alt
    Jamie Evans

    Yn dilyn cyfnodau yn gweithio gyda Dai Lloyd AC ac yn Nhŷ Gwynfor, mae Jamie Evans bellach yn gweithio fel Gweithiwr Achos i Cefin. Mae’n gweithio gydag etholwyr ar draws y rhanbarth i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed gan ystod o sefydliadau er mwyn datrys materion a allai fod yn effeithio ar eu bywydau.

  • alt
    Caitlin Regola

    Mae Caitlin Regola yn gweithio fel geinyddwr yn y swyddfa. Mae hi’n gyfrifol am amrywiaeth o dasgau, gan gynnwys rheoli dyddiadur Cefin, gohebiaeth ac ymuno ag ymweliadau yn y rhanbarth. Mae Caitlin hefyd yn astudio Datblygu Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Fyd-eang ym Mhrifysgol y Drindod, Dewi Sant.

  • alt
    Owain Meirion

    Mae Owain Meirion yn gweithio fel Uwch-swyddog Cyfathrebu ar gyfer Cefin, wedi cyfnod yn gweithio gyda Chymdeithas yr Iaith. Yn rhinwedd ei rôl, mae’n gyfrifol am sicrhau bod etholwyr yn ymwybodol o waith Cefin fel aelod, a hynny trwy gydweithio gyda’r wasg a’r cyfryngau cymdeithasol.

neidio i'r bar llywio neidio i'r prif gynnwys