-
Cymru
Dw i’n falch iawn o fod wrth galon tîm cryf Plaid Cymru yn y Senedd, sy’n hyrwyddo ein gweledigaeth o ddyfodol gwell – dros degwch, dros uchelgais a thros Gymru.
-
Addysg
Fel deilydd portffolio addysg y Blaid, dw i'n arwain ar ddatblygu ein polisïau yn y maes, ac yn hyrwyddo ein syniadau yn Siambr y Senedd a thu hwnt.
-
Cymunedau
Bob dydd, af ati i sicrhau bod cymunedau fy rhanbarth yn cael eu clywed, o fy nghartref yn Sir Gâr, i ucheldiroedd Eryri a Brycheiniog ac arfordir Sir Benfro.

Amdanaf
Mae Cefin Campbell yn Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan gael ei ethol yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2021. Ers Mai 2024, mae Cefin wedi bod yn ddeilydd portffolio addysg y Blaid.
Rhwng mis Ionawr 2022 a Mai 2024, roedd Cefin yn un o'r Aelodau Dynodedig yng Nghytundeb Cydweithio Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’i waith gyda’r Cytundeb, bu’n rhannol gyfrifol am sicrhau polisïau blaengar megis prydau ysgol am ddim i holl blant cynradd, mesurau i fynd i'r afael gydag ail dai, llunio Bil y Gymraeg ac Addysg er mwyn rhoi’r Gymraeg i bob plentyn a sicrhau bod hanes Cymru yn rhan hanfodol o’r cwricwlwm.
Ers diwedd y Cytundeb Cydweithio ym Mai 2024, mae Cefin Campbell wedi bod yn gyfrifol am bortffolio addysg y Blaid, gan arwain ar ddatblygu polisi a bod yn llefarydd ar y maes.