Rhwydwaith reilffordd Llinell Calon Cymru ymhlith y gwaethaf ym Mhrydain gyfan

 

Mae data diweddar ar gyfer Pasg a Haf 2023 yn dangos bod defnyddwyr trenau gorsafoedd ar hyd rheilffyrdd Calon Cymru rhwng Abertawe a'r Amwythig wedi dioddef rhai o'r perfformiadau rheilffyrdd gwaethaf ledled Prydain gyfan. 

Mae dadansoddiad o ddata National Rail, a gasglwyd gan y wefan On Time Trains, yn dangos o 2,633 gorsaf rheilffyrdd ar draws y DU, bod nifer o orsafoedd ar hyd llinell Calon Cymru yn y 100 isaf o ran perfformiad dros y 6 mis diwethaf. 

Roedd gorsafoedd yn Llandeilo a Rhydaman yn 2,597 a 2,594 o ran perfformiad, tra yn y cyfamser, daeth Llanymddyfri - cartref Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023 - 2,603 allan o gyfanswm o 2,633 o orsafoedd.  

Dros y 6 mis diwethaf yng ngorsaf Llanymddyfri, cafodd 20% o'r gwasanaethau eu diddymu, gyda 19% arall yn rhedeg dros 10 munud neu fwy yn hwyr. 

Roedd y sefyllfa rywfaint yn well dros y ffin ym Mhowys, gyda gorsaf reilffordd Llanwrtyd yn 2,541 allan o 2,633, tra bod gorsaf Builth Road - arhosfan boblogaidd i gymudwyr yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol - yn 2,367 yn y tabl. 

Mae’r rheilffordd wedi ennill enw da cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf fel atyniad poblogaidd i dwristiaid - gyda nifer o gerddwyr yn manteisio ar agosrwydd y rheilffordd at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Llwybr Glyndŵr, Llwybr Clawdd Offa a llwybr cerdded Llinell Calon Cymru - gan blethu rhwng gorsafoedd ar hyd y lein. 

Fodd bynnag, mae'r ffigurau perfformiad diweddaraf wedi cael eu barnu’n hallt gan wleidyddion lleol Plaid Cymru, sydd wedi cyhuddo Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru o esgeuluso'r rheilffordd werthfawr a thanseilio trigolion a'r diwydiant twristiaeth leol.  

Yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf eleni gwelwyd nifer o wasanaethau wedi’u diddymu ar hyd y llinell, gan adael nifer o fynychwyr sioe oedd yn cymudo yn sownd ar orsafoedd am gryn amser. 

Dywedodd Cefin Campbell, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru: 

"Dros y misoedd diwethaf mae nifer sylweddol o etholwyr ac ymwelwyr wedi cysylltu gyda fy swyddfa i fynegi eu rhwystredigaeth ynghylch gwasanaeth Llinell Calon Cymru. 

Mae nifer wedi cael eu hesgeuluso ar blatfformiau gwledig - gan wynebu oedi sylweddol neu aros am fysiau amnewid nad ydynt yn bodoli. Mae eraill wedi profi anhawster sylweddol wrth gymudo i’r gwaith neu gael eu gwyliau wedi'u difetha o ganlyniad i’r problemau rheolaidd sydd wedi plagio’r gwasanaeth dros y misoedd diwethaf. 

Does gen i ddim amheuaeth mai'r gwasanaeth yw'r tlws yng nghoron rhwydwaith rheilffyrdd Cymru; fodd bynnag, nid yw'r tarfu parhaus hyn yn gynaliadwy, ac rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn annog eu sylw brys i'r sefyllfa annerbyniol hon." 

Ychwanegodd Adam Price, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: 

"Mae Llinell Calon Cymru yn wythïen drafnidiaeth hanfodol, gan gysylltu cefn gwlad Sir Gaerfyrddin â chanolbarth Cymru a thu hwnt. Mae ei golygfeydd a'i thirweddau ysblennydd ynghyd â'i gorsafoedd niferus mewn trefi a phentrefi marchnad ddymunol yn ei gwneud yn gyfleuster o bwys i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. 

Fodd bynnag, does dim gwadu bod y gwasanaeth wedi profi amser cythryblus dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf - gan amharu ar ei enw da, a chael effaith andwyol ar dwristiaeth leol. Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru weithio ar fyrder i adolygu'r methiannau diweddar hyn a darparu gwasanaeth dibynadwy, effeithlon ar hyd y llwybr hwn." 

Nododd y Cynghorydd Handel Davies, Cynghorydd Sir Plaid Cymru dros Lanymddyfri: 

“Mae’n hynod siomedig deall bod gwasanaeth trenau Llanymddyfri, ymhlith y gwaethaf yn y DU gyfan - ond yn anffodus ni fydd y newyddion hyn o unrhyw syndod i’r boblogaeth leol. Dro ar ôl tro, mae'r gwasanaeth wedi wynebu aflonyddwch sylweddol ers misoedd lawer. Yn anochel, mae methiannau o’r fath yn achosi rhwystredigaeth gynyddol i’r holl ddefnyddwyr ac nad yw’n gwneud dim i annog mwy o ddefnydd o drenau ar adeg pan ddylai hyn gael ei hyrwyddo.” 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Aled Hughes
    published this page in Newyddion 2023-09-21 12:48:54 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd