Ergyd ddwbl i ffermwyr gan y Toriaid a Llafur

Mae polisïau’r Torïaid a’r llywodraeth Lafur yn cael effaith andwyol ar ffermwyr Cymru meddai Cefin Campbell, prif ymgeisydd Plaid Cymru yn rhanbarth Canol a Gorllewin Cymru.

Ar adeg pan mae’r llywodraeth Doriaïdd yn Llundain yn torri £137 miliwn o’r gefnogaeth ariannol i amaethyddiaeth yng Nghymru, mae’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn bwriadu troi Cymru gyfan yn Barth Nitrogen Bregus (NVZ), er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn gan yr undebau amaeth.

Pan fydd yr amodau'n ffafriol, mae ffermwyr fel arfer yn gwasgaru slyri ar eu caeau rhwng mis Hydref a mis Mawrth, ond bydd yr NVZ yn gwahardd slyri rhag cael ei wasgaru am bum mis dros gyfnod y gaeaf. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid storio’r slyri ar adeg pan fydd y mwyafrif o wartheg yn cael eu cadw dan do. Gallai hyn orfodi ffermwyr i fuddsoddi'n helaeth mewn tanciau slyri enfawr i ddygymod â’r gwastraff cynyddol.

‘Wrth i amaethyddiaeth a'n cymunedau gwledig wynebu heriau enfawr yn dilyn cytundeb Brexit ac effeithiau Covid, mae'r Ceidwadwyr yn cymryd miliynau o bunnoedd o arian sydd wir ei angen oddi wrth ein ffermwyr, ac mae Llafur yn cyflwyno mesurau llym a fydd yn cael effaith ddinistriol ar ffermydd llaeth bach neu ganolig’, meddai'r Cynghorydd Cefin Campbell sydd hefyd yn aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin gyda chyfrifoldeb am Faterion Gwledig.

'Er fy mod yn deall yn iawn pa mor hanfodol yw amddiffyn ein dyfrffyrdd rhag llygredd slyri, dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cymryd agwedd wahanol drwy weithredu cyfyngiadau mewn ffordd sy’n targedu ardaloedd penodol neu ffermydd sydd â hanes o arfer gwael - fel y cynigiwyd gan un o gyrff y llywodraeth, sef Cyfoeth Naturiol Cymru’, meddai. ‘Bydd y gwaharddiad cyffredinol hwn yn cosbi’r 95% o ffermwyr sydd wedi gweithio’n ddiwyd ers cenedlaethau i gynnal y cydbwysedd hwnnw rhwng cynnal bywoliaeth a gwarchod yr amgylchedd. Mae'n or-ymateb anghymesur iawn gan Lywodraeth Cymru yn fy marn i,’ meddai.

‘Gallai’r buddsoddiad sydd ei angen ar ffermydd teuluol i gydymffurfio â’r cyfyngiadau newydd hyn roi eu busnesau mewn perygl a hyd yn oed arwain at rai i droi eu cefn ar amaethu. Mae'r gefnogaeth ariannol a gynigir gan Lywodraeth Cymru i helpu ffermwyr i addasu i'r amodau newydd hyn yn druenus o annigonol. Mae’r costau uwch hyn, ynghyd â’r Torïaid yn torri miliynau o gymorth amaethyddol, yn dangos yn glir na ellir ymddiried yn yr un o’r prif bleidiau i gefnogi’r diwydiant amaeth, sef asgwrn cefn ein cymunedau gwledig ar draws canol a gorllewin Cymru ’, ychwanegodd.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd