Annog trigolion Llanbrynmair i gofleidio cyfle band eang cyflym iawn

Mae Cynghorydd Sir Plaid Cymru dros Lanbrynmair, Gary Mitchell, wedi galw ar aelodau o'r gymuned i fanteisio ar gyfle newydd i sicrhau band eang tra-chyflym ar gyfer eu pentref.

Mae Llanbrynmair wedi'i dewis fel un o dair cymuned yng Ngogledd Powys sy'n gymwys i gael cynllun cyflwyno band eang ffeibr cyflawn newydd, sy'n cael ei arwain gan Openreach. Fodd bynnag, bydd angen i'r gymuned addo eu cefnogaeth i'r cynllun os yw am fynd yn ei flaen.

Er mwyn i'r gymuned elwa yn ei chyfanrwydd, bydd yn rhaid i tua 30% o aelwydydd Llanbrynmair wneud cais am Dalebau Gigabit Llywodraeth y DU er mwyn gwneud y cynllun yn hyfyw. Ni fydd y talebau hyn yn costio dim i drigolion a busnesau, ond bydd yn rhaid iddynt ymrwymo i archebu gwasanaeth ffeibr llawn gan ddarparwr o'u dewis am o leiaf 12 mis unwaith y bydd y rhwydwaith newydd ar gael.

Gall preswylwyr a busnesau wirio eu cymhwysedd ar gyfer y cynllun drwy roi eu cod post ar wefan Openreach Connect My Community, sydd i'w weld yn https://www.openreach.com/connectmycommunity. Ac mae mwy o wybodaeth am Dalebau Gigabit Llywodraeth y DU ar gael yma: https://gigabitvoucher.culture.gov.uk/

Wrth sôn am y cynllun newydd, dywedodd y Cynghorydd Gary Mitchell,

"Byddwn yn annog holl drigolion a pherchnogion busnes ardal Llanbrynmair i wirio eu cymhwysedd ar wefan Openreach, ac i bob busnes ac aelwyd gymwys wneud cais am daleb Gigabit.

I ormod mewn rhannau o Gymru, mae cysylltedd digidol yn parhau i fod yn broblem. Mae Plaid Cymru wedi bod yn arwain y ffordd, yn y Senedd a San Steffan, i sicrhau nad yw ein cymunedau'n cael eu gadael ar ôl o ran mynediad at fand eang cyflym iawn.

Rydym yn gwybod nad yw mynediad at gysylltiad rhyngrwyd cyflym a dibynadwy erioed wedi bod yn fwy hanfodol. Rydym hefyd yn gwybod nad yw cyfleoedd i sicrhau hyn yn digwydd yn aml yng nghefn gwlad Powys, ac rwy'n annog pobl yn Llanbrynmair i'w gipio gyda'r ddwy law, ac i gysylltu â mi os ydynt yn cael trafferth cofrestru eu cefnogaeth."

Ychwanegodd Cefin Campbell, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru:

"Rydyn ni'n gwybod pa mor gwbl hanfodol yw cysylltiad band eang cyflym, dibynadwy, ac yn anffodus i ormod o gefn gwlad Cymru mae hyn yn parhau i fod yn eithriad yn hytrach na'r norm. Yn y cyd-destun hwn, mae'r cynllun Openreach newydd hwn yn gyfle gwych mewn gwirionedd.

Byddaf i a fy nghydweithwyr Plaid Cymru yn y Senedd a San Steffan yn parhau i graffu'n gadarn ar ymdrechion Llywodraeth Cymru a'r DU i wella cysylltedd digidol ar gyfer ein cymunedau gwledig a byddaf yn parhau i annog cwblhau'r gwaith o gyflwyno ffeibr llawn yn gyflym."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Aled Hughes
    published this page in Newyddion 2023-08-30 10:41:43 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd